Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (21)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud)
|
Cwestiwn Brys Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch Prifysgol Cymru, yn sgil datblygiadau diweddar. EAQ(4)0052(ESK)
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Partneriaeth Tai Cymru (45 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Twf Swyddi Cymru (45 munud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol (45 munud) |
6. Dadl ar Gyfrifoldeb Rhianta Corfforaethol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal (60 munud)
NDM4819 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1) Yn nodi bod gwella deilliannau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn her barhaus; a 2) Yn cydnabod
pwysigrwydd rhianta corfforaethol i wella cyfleoedd bywyd plant
sy'n derbyn gofal.
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol fod y Wladwriaeth, yn rhy aml, yn cael effaith negyddol ar ganlyniadau bywyd plant unwaith y byddant mewn gofal. Gellir gweld canfyddiadau’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://www.centreforsocialjustice.org.uk/default.asp?pageRef=316 Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r diffygion mewn darparu eiriolaeth i blant sy’n derbyn gofal, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Comisiynydd Plant Cymru. Gellir gweld Adroddiad Blynyddol 2010/11 Comisiynydd Plant Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.complantcymru.org.uk/cy/rhestr-cyhoeddiadau/ Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dichonoldeb cyflwyno
Bwrsariaeth Cenedlaethol, sy’n mynnu bod awdurdodau lleol yn
cefnogi plant sy’n derbyn gofal sy’n mynd ymlaen i
Addysg Uwch. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu mai dim ond 1 plentyn o bob 10 sy’n gadael gofal sy’n cael 5 TGAU gradd A* i C. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dalu costau byw a ffïoedd dysgu
llawn plant oedd yn derbyn gofal sy’n fyfyrwyr mewn
prifysgol. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y ddyletswydd gofal i 21 oed, pa un a yw’r plentyn yn aros mewn addysg ai peidio, er mwyn gwella cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal.
|
Cyfnod pleidleisio |
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mercher, 12 Hydref 2011